Ein Cefndir
Cafodd Positive Leap ei sefydlu i ateb y galw am hyfforddiant ac asesu arbenigol. Mae’n rhoi cefnogaeth i blant ac oedolion sydd â phob mathau o Anawsterau Dysgu Penodol, ac i’r rheiny sy’n cael anawsterau llythrennedd a rhifedd. Gall roi cyngor hefyd am y trefniadau mynediad priodol i’r rhai sy’n sefyll arholiad. Mae gan Positive Leap ddau Therapydd Galwedigaethol, Cwnselwr, Therapydd Iaith a Lleferydd a seicolegydd Addysgol cwbl gymwysedig.
Ein nod yw gwella’r cyfle i’r unigolyn ddysgu bob amser a helpu rhieni ac athrawon i ddeall sut y gallent gyfrannu at y broses o gyflawni hynny.
Yn rhedeg Positive Leap mae Jayne Evans BAdd anrh, MA Add, AMBDA, AMBDA Rhifedd, CCET; athrawes arbenigol gyda 17 mlynedd o brofiad o weithio gydag unigolion sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol o rai 5 oed i’r rhai sy’n troi’n oedolion. Mae hi wedi gweithio mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol ac mae hi wedi cefnogi myfyrwyr gydag Anawsterau Dysgu Penodol yn y brifysgol; yn ogystal mae hi wedi gwneud dwy swydd ddarlithio mewn dwy brifysgol. Mae Jayne hefyd yn cydlynu’r Sefydliad Dyspracsia yng Ngogledd Cymru a Swydd Amwythig. Mae hyn wedi cyfrannu’n fawr at ei gwybodaeth am ddyspracsia ac mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o’r anawsterau sy’n wynebu plant a’u rhieni. Mae hi’n aelod o Patoss, NASEN, Afasic, Cymdeithas Dyslecsia Prydain, y Gymdeithas Dyslecsia Lleol ac mae hi’n aelod proffesiynol o’r Sefydliad Dyspracsia. Mae hi hefyd yn aelod o Banel Addysg y Sefydliad Dyspracsia.
Mae gan ein Athrawon Arbenigol wledd o brofiad mewn ymdrin ag anghenion unigolion gydag amrywiaeth o Anawsterau Dysgu Penodol. Mae gan yr holl athrawon yn Positive Leap indemniad proffesiynol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac mae ganddynt dystysgrif DBS.