Positive Leap
Mae Positive Leap yn cefnogi plant ac oedolion sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol - Dyslecsia, Dyspracsia (DCD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD) a Dyscalcwlia.
Mae hyfforddiant arbenigol ar gael i gefnogi unigolion i ddatblygu eu llythrennedd a rhifedd, mae’n cydnabod cryfderau unigolion ac yn adnabod ac ymdrin ag anghenion penodol. Mae pwyslais ar ddysgu drwy ddefnyddio gwahanol synhwyrau a defnyddio strategaethau cofio fel bod y dysgwr yn gallu cadw’r gwelliannau yma mewn llythrennedd a rhifedd. Mae cymorth ar gael hefyd i’r rheiny sydd angen cefnogaeth i wella eu sgiliau astudio a’u technegau arholiad.
Mae Therapi Galwedigaethol ar gael i’r bobl hynny sydd ag anawsterau cydsymud motor, tra bo ein Therapydd Iaith a Lleferydd yn cefnogi unigolion gyda’u hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu. Gall ein Cwnselwr gefnogi oedolion a phlant fel ei gilydd sy’n cael anawsterau emosiynol.
P’un a ydyw’r anghenion yn rhai dros dro neu dymor hirach, mae cymorth wrth law.
Gwnawn asesiadau diagnostig llawn yn Positive Leap, gan gynnwys asesiadau i gefnogi ceisiadau DSA; mae modd asesu straen gweledol hefyd.
Mae myfyrwyr yn teithio i Positive Leap o ardal eang - o rannau o Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Cilgwri a Gogledd Cymru a chyn belled â Chonwy. Mae’r rheiny sy’n cael cefnogaeth yn mynd i ysgolion a gynhelir, ysgolion annibynnol, colegau chweched dosbarth a phrifysgolion.
Fel mae ei enw’n awgrymu, mae Positive Leap yn dathlu doniau’r rhai sydd ag anawsterau dysgu penodol yn ogystal â rhoi strategaethau iddynt i ymdrin â’r anawsterau.