Beth yw barn y myfyrwyr? Mae’n lle da i ddysgu a chewch lawer o hwyl. Luke, 12 oed
Y Plasau, Wrecsam

Lle’r Ydym

Y Plasau

Positive Leap
Y Plasau,
Eutun,
Wrecsam
LL13 0SP

Mae dwy ystafell ddosbarth gan Positive Leap yn y Plasau, Eutun, ger Wrecsam. Mae’r ddwy ystafell ddosbarth yn cynnwys pob math o offer ac adnoddau, ac mae’n cynnig yr amgylchedd dysgu delfrydol.

Mae lleoliad heddychlon y Plasau nid yn unig yn creu amgylchedd tawel i gynnal asesiadau a dysgu, mae hefyd yn lleoliad braf i rieni dreulio amser tra bo’r plant yn cael eu gwersi.

Mae amrywiaeth o siopau bychain, salon drin gwallt a harddwch, siop goffi, bwyty a chlwb golff sy’n gwerthu lluniaeth ysgafn. Hefyd mae lle chwarae anturus yno a llwybr natur lle mae llawer o’r rhieni’n mynd â’u cŵn am dro yn ystod amser gwersi.


Glyn Wylfa, Chirk

Glyn Wylfa

Positive Leap
Glyn Wylfa
Ffordd y Castell
Y Waun
LL14 5BS

Mae gan Positive Leap ddwy ystafell ddosbarth groesawgar a braf yn y Waun yng Nglyn Wylfa, sy’n adeilad mawreddog ac adnabyddus yn dyddio o 1899. Mae adnoddau da yn yr ystafelloedd dosbarth hyn ac maent yn lle braf i ddysgu.

Mae Glyn Wylfa’n wynebu Ffordd y Castell ac yn edrych allan dros safle Treftadaeth Byd mawreddog Dyfrbont Y Waun.

Mae ystafell aros i rieni ac, yn gyfleus iawn, mae Caffi Wylfa drws nesaf sy’n gweini cinio ysgafn a diodydd. Mae gan Glyn Wylfa le parcio am ddim hefyd i’r ymwelwyr i gyd.

Ein Cefndir Cymorth gyda Llythrennedd Cymorth gyda Rhifedd Asesiadau Cynhyrchion Cysylltu â Ni