Beth yw barn y myfyrwyr? Mae’n lle da i ddysgu a chewch lawer o hwyl. Luke, 12 oed
Cefnogaeth gydag Anawsterau Dysgu Penodol

Cymorth gyda Rhifedd

Mae Jayne Evans yn arbenigo mewn addysgu disgyblion sydd ag anawsterau mathemateg, gan gefnogi eu anghenion dysgu - o ddeall sgiliau rhifedd sylfaenol i fyny at lefel TGAU. Lle bo’n bosibl, mae pob athro sy’n cymryd rhan mewn rhoi cefnogaeth gyda rhifedd yn Positive Leap yn addysgu mathemateg mewn ffordd ymarferol. Mae pwyslais ar ddatblygu ‘dealltwriaeth’ yn hytrach na chanolbwyntio ar ba mor gyflym mae’r dysgwr yn canfod yr atebion. Pan fydd unigolion yn deall cysyniad mathemategol nid oes cymaint o angen cofio gwybodaeth.

Gall disgyblion gael anawsterau gyda mathemateg am fod dyscalcwlia arnynt neu oherwydd Anhawster Dysgu Penodol arall, megis dyslecsia neu ddyspracsia sy’n ymyrryd â’u dealltwriaeth o bynciau mathemategol penodol. Yn aml iawn, mae’r unigolion yma’n cael problemau gweld dilyniant sy’n golygu ei bod hi’n anodd dysgu tablau. Weithiau mae plant yn gweld bod bylchau ganddynt yn eu dealltwriaeth, efallai am eu bod wedi symud ysgol, wedi bod yn sâl am gyfnod neu, yn syml iawn, am nad ydynt wedi deall yr hyn a ddysgwyd iddynt ar un adeg. Mae anawsterau rhifedd fel yma’n cael sylw yn Positive Leap hefyd, gyda chyfres fer o wersi wedi’u targedu.

Mae modd cefnogi myfyrwyr sydd angen cymorth gyda’u Prawf Sgiliau Rhifedd ar gyfer cyrsiau Ymarfer Dysgu hefyd yn Positive Leap.

Positive Leap, WrecsamPositive Leap, WrecsamPositive Leap, Wrecsam
Ein Cefndir Cymorth gyda Llythrennedd Cymorth gyda Rhifedd Asesiadau Cynhyrchion Cysylltu â Ni